ENG / CYM
Bad Wolf yn brathu gyntaf gyda buddsoddiad cyntaf yn y Welsh National Theatre Partneriaeth gyda chwmni cynhyrchu i ddatblygu awduron a thalent greadigol newydd
(O’r chwith i'r dde) Michael Sheen, Jane Tranter, Sharon Gilburd, Kate Crowther
Cwmni cynhyrchu teledu Bad Wolf ydi’r buddsoddwr sector-preifat cyntaf i bartneru â’r Welsh National Theatre.
Wedi'i sefydlu gan Michael Sheen yn gynharach eleni, mae'r theatre yn ymchwilio i mewn i sawl opsiwn i wireddu’r weledigaeth i greu dramâu ar raddfa fawr a fydd yn unieuthu a chynulleidfaoedd yng Nghymru ac ar draws y byd.
Nawr mae'r cwmni cynhyrchu o Gaerdydd, sydd y tu ôl i sioeau a ffilmiwyd yng Nghymru gan gynnwys Industry, His Dark Materials a Doctor Who, yn partneru â'r theatr i ddatblygu'r genhedlaeth nesaf o dalent ysgrifennu ar gyfer y llwyfan a'r sgrin yng Nghymru.
Bydd buddsoddiad Bad Wolf yn cynnig cyllid-hadu i gomisiynu awduron sydd â syniadau beiddgar i ddatblygu straeon Cymreig a allai gael eu perfformio ar lwyfannau mwyaf y byd, neu all gael eu datblygu ar gyfer y sgrin.
Dywedodd Michael Sheen, cyfarwyddwr artistig Welsh National Theatre: “Ychydig fisoedd yn unig i mewn i fodolaeth, rydym wedi cyhoeddi ein cynyrchiadau cyntaf ar raddfa fawr – Our Town ac Owain & Henry - wedi ymgartrefu yn Abertawe ac wedi cymryd y camau cyntaf i sefydlu ein cynllun datblygu talent gyda’r bartneriaeth newydd hon. Mae Bad Wolf wedi profi y gall straeon a thalent o Gymru swyno’r byd; dyna beth rydym yn anelu at ei wneud gyda’r Welsh National Theatre.”
Dywedodd Tim Price, rheolwr llenyddol Welsh National Theatre: “Rydym eisiau i awduron Cymru gael syniadau mawr ac ysgrifennu’n feiddgar. Rydym eisiau straeon a fydd yn cyrraedd y cynulleidfaoedd mwyaf ac mae hynny’n golygu bod yn rhaid i’n hawduron ddechrau meddwl yn fasnachol. Bydd comisiynau hadu Bad Wolf yn helpu i roi amser i’r awduron i feithrin eu syniadau a’u tyfu’n weithiau sy’n deilwng o gomisiwn llawn. Dim ond un o’r nifer o ffyrdd yr ydym am ymgysylltu â’r genhedlaeth nesaf o ysgrifenwyr yw’r bartneriaeth newydd hon.”
Ychwanegodd Sharon Gilburd, prif weithredwr Welsh National Theatre: “Uchelgais Welsh National Theatre yw adeiladu cwmni sy’n cynnig gwerth gwirioneddol i bartneriaid o’r sector cyhoeddus a’r sector preifat. Mae Bad Wolf, ein partner sector preifat cyntaf, yn dod â safon, profiad, maint a gweledigaeth-gyffredin sydd yn ein galluogi i fynd â straeon o Gymru i gynulleidfa fyd-eang.”
Y bartneriaeth â Welsh National Theatre yw'r fenter ddiweddaraf gan Bad Wolf i gefnogi datblygiad ecosystem y diwydiannau creadigol yng Nghymru. Screen Alliance Wales, wedi ei leoli yn Wolf Studios Wales, yw eu cangen hyfforddi dim-er-elw a grëwyd i addysgu, hyrwyddo a hyfforddi criwiau cynhyrchu ac i sefydlu isadeiledd. Yn gynharach eleni, cyhoeddwyd pedwar sgriptiwr y Blaidd Writers Programme gyntaf. Yn 2021, cymerodd Sony Picture Television gyfran fwyafrifol yn Bad Wolf i ariannu’r cam nesaf o’r datblygiad.
Dywedodd Jane Tranter, Prif Swyddog Gweithredol Bad Wolf: “Mae uchelgais Welsh National Theatre yn dyst i weledigaeth ac ymrwymiad Michael Sheen i’r Celfyddydau. Mae cymuned greadigol gref yng Nghymru o fudd i bob un ohonom ac yn y deng mlynedd ers geni Bad Wolf rydym wedi gweld y Diwydiannau Creadigol yn tyfu ac yn ffynnu er gwaethaf cyfnodau heriol. Rydym yn falch o gefnogi menter mor feiddgar a chyffrous.”
Bydd Michael Sheen yn sgwrsio â Jane Tranter ar y llwyfan yng Ngŵyl Deledu Caeredin (Edinburgh TV Festival) ddydd Mawrth 19 Awst 2025.
Bydd cynhyrchiad cyntaf Welsh National Theatre, Our Town, gyda Michael Sheen yn y serennu, yn cael ei berfformio yn Theatr Y Grand Abertawe (dydd Gwener 16 Ionawr-dydd Sadwrn 31 Ionawr 2026), Venue Cymru yn Llandudno (dydd Mawrth 3 Chwefror-dydd Sadwrn 7 Chwefror 2026), Theatr Clwyd yn yr Wyddgrug (dydd Mercher 11 Chwefror-dydd Sadwrn 21 Chwefror 2026) a Theatr y Rose, Kingston-upon-Thames (dydd Iau 26 Chwefror-28 Mawrth 2026). Mae tocynnau ar gyfer pob dyddiad ar werth nawr.
Yna bydd Sheen yn chwarae rhan Owain Glyndŵr yn nrama epig newydd Gary Owen, Owain & Henry, mewn cyd-gynhyrchiad rhwng Welsh National Theatre a Chanolfan Mileniwm Cymru ym mis Tachwedd 2026.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Daniel Tyte (daniel.tyte@workingword.co.uk) o Working Word ar +44 29 2045 5182 / +44 7742 251232.