CYM / ENG

Llun: Tim Price, Azuka Oforka, Sian Owen, Michael Sheen a Rhys Warrington.

Mae’r Welsh National Theatre yn comisiynu dramâu newydd gan Azuka Oforka, Sian Owen, Rhys Warrington ac Emily White – pedwar o’r lleisiau mwyaf cyffrous ym myd theatr Cymru heddiw. Mae’r pedwar dramodydd eisoes yn gweithio’n ddiwyd yn creu’r dramâu mawr nesaf o arwyddocâd cenedlaethol ar gyfer tymhorau’r theatr yn y dyfodol.

Rhaglen Dyfodol 27/28

Mae’r Fonesig Siân Phillips yn dychwelyd i lwyfan Cymru yn 2027 yn Rockaby gan Samuel Beckett, a gyflwynir ochr yn ochr â Not I a Footfalls mewn cynhyrchiad newydd dan gyfarwyddyd Richard Beecham. Mae’r actor Cymreig o fri, sydd bellach yn 93 oed, yn ailymweld â gwaith Beckett mewn cynhyrchiad a fydd yn teithio ledled Cymru a thu hwnt, gyda rhagor o gastio i’w gyhoeddi.

Yn dilyn taith lwyddiannus a werthodd bob tocyn ledled Cymru, mae My Mix(ed up) Tape yn mynd i Ŵyl Ymylol Caeredin yn 2027. Wedi’i ysgrifennu a’i berfformio gan Katie Payne a’i gyfarwyddo gan Stef O’Driscoll, mae’r cyd-gynhyrchiad clodwiw hwn yn daith ddoniol, ffyrnig a llawn cerddoriaeth drwy briodas anhrefnus yn y Cymoedd, gan archwilio hunaniaeth, dosbarth a pherthyn yng Nghymru gyfoes.

Mae comedi briodas boblogaidd y Cymoedd gan Frank Vickery, A Night on the Tiles, yn dychwelyd yng ngwanwyn 2028 mewn cyd-gynhyrchiad â Theatrau RhCT. Wedi’i lwyfannu gyntaf ym 1987 a’i ddatblygu drwy Stiwdio ddiweddar Theatr Genedlaethol Cymru, mae’r adfywiad yn nodi 10 mlynedd ers marwolaeth y dramodydd o Dreorci ac yn dathlu un o leisiau theatr mwyaf annwyl Cymru.

Sign up to our newsletter for future updates