ENG / CYM

Cyhoeddi’r llun cyntaf o Michael Sheen fel Owain Glyndŵr

Photograph: Kirsten McTernan

Mae’r llun a’r clip sain cyntaf o Michael Sheen fel Owain Glyndŵr wedi’u cyhoeddi heddiw ar y diwrnod blynyddol sy’n coffau’r tywysog eiconig o Gymru. 

Ar 16 Medi 1400, bu ddatgan ei ddilynwyr mai Glyndŵr oedd Tywysog Cymru, gan ddechrau gwrthryfel 15 mlynedd yn erbyn rheolaeth Harri IV, Brenin Lloegr. 

 

Daw’r cyfnod hollbwysig yma o hanes Cymru yn fyw yn nrama epig newydd Gary Owen, Owain & Henry yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, fis Tachwedd 2026.

 

Yn y llun a rennir heddiw, mae Sheen i’w weld fel Owain, trwy lens y ffotograffydd Kirsten McTernan. Drwy glip sain a rennir ar y cyfryngau cymdeithasol fe glywn yr actor a chyfarwyddwr artistig Welsh National Theatre fel Owain am y tro cyntaf, yn adrodd y geiriau hyn:

 

Mae’r ynys yma wedi bod yn gartref i sawl teyrnas.

Yn gyntaf fy mhobl i, y Cymry.

Yna daeth y Rhufeiniaid, y Llychlynwyr. Yr Eingl a'r Sacsoniaid. Y Fflandryswyr. Y Normaniaid.

 

Roedden ni’n siarad dwsin o ieithoedd o ddwsin o genhedloedd.

Ac yna tyfodd y cymysgedd o bobloedd yma i fod yn Lloegr.

Nawr dim ond Sacsoneg all gael ei siarad yn llys Lloegr,

Ac mae tafod hynaf yr ynys yma yn cael ei alw’n estron.

 

Heddiw, fe ddangoswn i’r Sacsoniaid mai

Ynys i’w rhannu yw hon.

 

Bydd tocynnau ar gyfer y cyd-gynhyrchiad gan Welsh National Theatre a Chanolfan Mileniwm Cymru yn mynd ar werth i Aelodau Partner a Phartner Awen Canolfan Mileniwm Cymru o 3 Tachwedd, i Aelodau Ffrind a Ffrind+ o 5 Tachwedd, i Grwpiau o 10+ o 6 Tachwedd, ac i’r cyhoedd o 7 Tachwedd 2025 ymlaen. Ewch i wmc.org.uk/cym/owain-and-henry am wybodaeth.

 

DIWEDDAm ragor o wybodaeth, cysylltwch â Daniel Tyte (daniel.tyte@workingword.co.uk) o Working Word ar +44 29 2045 5182 / +44 7742 251232.