OWAIN &
HENRY

CYM / ENG

Welsh National Theatre a Chanolfan Mileniwm Cymru yn cyflwyno

OWAIN & HENRY

Drama newydd gan Gary Owen

Gyda Michael Sheen yn serennu fel Owain Glyndŵr

Gyd-gyfarwyddo gan Michael Sheen a Steffan Donnelly


5-28 Tachwedd 2026

Canolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd

ARCHEBWCH NAWR

Stori epig am bŵer, hunaniaeth genedlaethol a phris tawelwch. 

Yn 1400, mae Owain Glyndŵr (Michael Sheen), arglwydd tir bach gogleddol mae pobl wedi anghofio amdano, yn cael ei ddatgan yn herwr gan y Brenin Harri IV. Yn hytrach nag ildio i’w dynged, mae Owain yn codi gwrthryfel. Wrth i daniad ei derfysg ledu ar draws y ffin, mae Harri yn ei chael hi’n anodd cadw’r orsedd ac mae’r ddau ddyn yn ffeindio eu hunain ar ochrau cyferbyn hanes; un yn brwydro i oroesi, a’r llall i gael pŵer.

Wedi’i ysgrifennu gan Gary Owen (Iphigenia in Splott), dramodydd Cymreig sydd wedi ennill gwobr Olivier, a wedi’i gyd-gyfarwyddo gan Michael Sheen a Steffan Donnelly, mae Owain & Henry yn stori epig hanesyddol sy’n llawn pŵer barddonol. Mae’r cynhyrchiad newydd uchelgeisiol yma yn dod ag un o straeon mwyaf diffiniol Cymru yn fyw, lle mae’r frwydr dros fodolaeth cenedl yn y fantol. 

Cyd-gynhyrchiad Canolfan Mileniwm Cymru a Welsh National Theatre.