ENG / CYM
Matthew Rhys i chwarae rhan Burton wrth ddychwelyd i lwyfan Cymru am y tro cyntaf mewn dau ddegawd i godi arian ar gyfer Welsh National Theatre
Mae enillydd Gwobr Emmy, Matthew Rhys, ar fin dychwelyd i lwyfan Cymru ym mis Tachwedd am y tro cyntaf ers 22 mlynedd mewn drama un-dyn glodwiw am Richard Burton i godi arian ar gyfer Welsh National Theatre newydd Michael Sheen.
Gyda RB100 - dathliadau Richard Burton sy'n nodi canmlwydd ers geni'r actor eiconig - yn parhau, mae Rhys yn dod yn ôl i Gymru o'i gartref yn America ar gyfer cyfres o sioeau ledled y wlad, gan arwain at berfformiad arbennig yn Caffi Capel Bethel ym man geni Burton, Pontrhydyfen i gloi dathliadau’r canmlwyddiant.
Wedi'i ysgrifennu gan Mark Jenkins, wedi'i gyfarwyddo gan yr enillydd Gwobr Tony Bartlett Sher, a'i gynhyrchu gan Maris Lyons, mae Playing Burton yn cynnig cipolwg treiddgar ar fywyd yr actor, o'i ddechreuadau tlawd yn Ne Cymru i'w daith i ddod fel un o berfformwyr gorau ei genhedlaeth. Gan olrhain ei berthynas gariadus angerddol ag Elizabeth Taylor a'i frwydr gyhoeddus gydag alcoholiaeth, mae'r ddrama'n archwiliad enaid o enwogrwydd, uchelgais a hunaniaeth.
Mae Rhys, a ganwyd yng Nghaerdydd, a enillodd Emmy yn 2018 am y Prif Actor Rhagorol mewn cyfres Ddrama am ei rôl yn The Americans, wedi bod yn ymarfer y rôl yn ei gartref yn Efrog Newydd.
Dywedodd Matthew Rhys: “Mae Michael Sheen wedi bod yn rhoi cywilydd arnom ni gid fel actorion Cymru, drwy sefydlu Welsh National Theatre, felly, pan ymddangosodd lle yn fy amserlen, teimlais mai dyma’r amser i mi sefyll i fyny!
“Pan ddechreuodd Covid, paratois gynhyrchiad o Playing Burton ond dydw i erioed wedi cael y cyfle i’w berfformio ar y llwyfan. Gyda 2025 yn flwyddyn canmlwyddiant Burton a blwyddyn gyntaf Welsh National Theatre, roedd o'n teimlo’n gywir i ddychwelyd i lwyfan Cymru am y tro cyntaf ers dros 20 mlynedd.
“Y rheswm mi o'n i eisiau actio oedd oherwydd Richard Burton. Ers gweld ei berfformiad anhygoel yn Look Back in Anger am y tro cyntaf, ac i mi barhau i wrando ar ei recordiad sain o Hamlet ac Under Milk Wood. Fe wnaeth o dorri’r llwybr i ni i gyd a dangos i ni ei bod hi’n bosibl.”
Dywedodd Michael Sheen “Cysylltodd Matthew â mi i ddweud bod ganddo fwlch yn ei ddyddiadur felly sut y gallai helpu Welsh National Theatre.
“Mae'r hyn a ddechreuodd gyda neges syml wedi troi'n daith lle gall pobl ledled ein gwlad weld un o'n hactorion gorau yn chwarae rhan un o'n hactorion gorau, a hynny i gyd ym mlwyddyn canmlwyddiant Richard Burton.”
Dywedodd Cen Phillips, Aelod y Cabinet dros Natur, Twristiaeth a Llesiant yng Nghyngor Castell-nedd Port Talbot: “Mae Canmlwyddiant Richard Burton yn dathlu gyrfa anhygoel Burton, ac yn tynnu sylw at sut y cafodd ei lunio gan gymunedau a thirweddau’r rhanbarth y galwodd yn gartref iddo. Felly, mae mynd â Playing Burton ar draws Cymru yn ffordd wych o barhau â’i etifeddiaeth trwy ysbrydoli cenhedlaeth newydd.
“Barhaodd gyrfa Richard Burton ddegawdau ac mi wnaeth o feithrin cariad gydol oes ar gyfer y celfyddydau perfformio mewn miliynau. Parhaodd i fod yn falch o’i wreiddiau ym Mhort Talbot drwy gydol y cyfan, a gobeithiwn y bydd y perfformiadau hyn yn annog ac yn ysbrydoli mwy o bobl i ymgysylltu â’r celfyddydau yng Nghymru. Mae’n teimlo fel pe bai Burton yn trosglwyddo’r dortsh i Welsh National Theatre i barhau i gynrychioli Cymru ar y llwyfan rhyngwladol, gan ddarparu cyfleoedd i actorion Cymru ddod o hyd i uchelfannau newydd o lwyddiant – os gall Richard ei wneud, gall eraill hefyd.”
Mae tocynnau ar werth rwan i weld Matthew Rhys yn Playing Burton gyda'r holl arian yn mynd i gefnogi Welsh National Theatre ac ar gael yn fan hyn.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Daniel Tyte (daniel.tyte@workingword.co.uk) yn Working Word drwy +44 29 2045 5182 / +44 7742 251232.