ENG / CYM

Welsh National Theatre yn cyhoeddi’u Prif Gyllidwr wrth i Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston gefnogi’u tymor agoriadol

Llun: Jon Pountney

Gyda chynhyrchiad cyntaf y Welsh National Theatre yn agor nos yfory (nos Wener 16 Ionawr) yn Theatr y Grand Abertawe, cyhoeddwyd mai Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston fydd y Prif Gyllidwr ar gyfer y tymor agoriadol.

Ers ei sefydlu yn 1995 gan y sylfaenydd a’r cadeirydd Mathew Prichard CBE, mae’r Ymddiriedolaeth wedi bod yn rhannu breindaliadau a dderbyniwyd o gynhyrchiad The Mousetrap yn Llundain – y ddrama dirgelwch llofruddiaeth a ysgrifennwyd gan nain Mathew, Agatha Christie – er mwyn cefnogi sefydliadau sy’n cyflawni gwaith o ansawdd uchel ar draws y celfyddydau, yn enwedig y rhai sy’n gweithio er budd Cymru.

I ddathlu Pen-blwydd yr Ymddiriedolaeth yn 30 oed a mwy na 30,000 o berfformiadau o The Mousetrap ers i'r ddrama agor ar 8 Mehefin 1952, lansiwyd Cronfa Pen-blwydd i ddathlu mynegiant creadigol a chrefft adrodd straeon, boed hynny drwy gerddoriaeth, opera, perfformio, y celfyddydau gweledol, arddangosfeydd, neu'r gair ysgrifenedig, gan gefnogi prosiectau sydd wedi’u cynllunio i sicrhau'r effaith fwyaf a'r mwynhad gorau i gynulleidfaoedd. Mae’r Welsh National Theatre yn un o un ar ddeg o sefydliadau i dderbyn grant arbennig gan y Gronfa. 

Mae gan y Welsh National Theatre, a sefydlwyd ar y cyd gan yr actor Michael Sheen, weledigaeth i greu gwaith o safon fyd-eang o Gymru a’i rannu â’r byd, gan ddod â doniau o Gymru at ei gilydd i greu theatr uchelgeisiol sy’n dod â stori’r wlad yn fyw.

Mae tymor cyntaf y cwmni yn agor nos yfory gyda Our Town, cyd-gynhyrchiad â’r Rose Theatre lle mae campwaith y dramodydd Americanaidd Thornton Wilder yn cael ei berfformio gyda gwedd Gymreig, a hynny yn Abertawe, Llandudno, yr Wyddgrug a Kingston-upon-Thames. Ym mis Tachwedd, yn nrama epig newydd y dramodydd Gary Owen, Owain & Henry, bydd Michael Sheen yn chwarae rhan Owain Glyndŵr mewn cyd-gynhyrchiad â Chanolfan Mileniwm Cymru ar ail lwyfan mwyaf Ewrop.

Meddai Michael Sheen, Cyfarwyddwr Artistig y Welsh National Theatre: “Mae ein gwerthoedd a'n huchelgeisiau o ran cefnogi theatr a gwneuthurwyr theatr Cymru yn teimlo'n gydnaws iawn. Mae cael ein cefnogi gan etifeddiaeth ryfeddol Agatha Christie fel hyn yn ffynhonnell ysbrydoliaeth a hyder gwych i ni yn WNT.”

Ychwanegodd Sharon Gilburd, prif swyddog gweithredol sefydlol y Welsh National Theatre: “Pan sefydlwyd y theatr gennym, ein strategaeth oedd archwilio amrywiaeth o lwybrau ariannu i gefnogi’r weledigaeth. Allwn ni ddim diolch ddigon i Mathew ac Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston am gydnabod ein gwerthoedd cyffredin a gobeithio mai dyma ddechrau perthynas hir.” 

Meddai Mathew Prichard, Cadeirydd Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston: “Mae’r Ymddiriedolaeth yn falch o ddathlu 30 mlynedd o weithio gyda llawer o sefydliadau celfyddydol o ansawdd uchel ledled gwledydd Prydain drwy ddyfarnu Grant Pen-blwydd arbennig i’r Welsh National Theatre i gefnogi cynyrchiadau o Our Town ac Owain & Henry yn ystod eu tymor cyntaf yn 2026.

“Treuliodd fy Mam-gu ei hoes yn cael ei swyno gan y Celfyddydau. Ysgrifennodd i ddiddanu ac roedd wrth ei bodd yn cael ei diddanu gan gynifer o wahanol ffurfiau celf. Rwy'n parhau i fod yn ddiolchgar i'r holl ymarferwyr yn y Celfyddydau sy'n parhau i ddod â'i gwaith yn fyw ac sydd wedi galluogi Ymddiriedolaeth Colwinston i fod yn rhan o brosiectau fyddai wedi bod yn agos at ei chalon yn fy marn i. Fy uchelgais yw y bydd y Gronfa Pen-blwydd 30 yn parhau i annog hyn i ddigwydd." 

Mae tocynnau ar gyfer tymor agoriadol y Welsh National Theatre ar gael yma.