ENG / CYM
BBC Studios yn buddsoddi yn Welsh National Theatre i ddarganfod doniau newydd yng Nghymru
Partneriaeth gyda chwmni cyfryngau byd-eang i ariannu
sgowt diwylliant cyntaf Welsh Net
(o’r chwith i’r dde): Hannah Williams (BBC), Tim Price (Welsh National Theatre), Sharon Gilburd (Welsh National Theatre), Roxanne Harvey (BBC), Michael Sheen (Welsh National Theatre).
Mae BBC Studios yn buddsoddi yn theatr newydd Welsh National Theatre wrth i’r ddau sefydliad ddod ynghyd i greu cyfleoedd i leisiau newydd o Gymru gael swyddi creadigol ym maes theatr a theledu.
Gweledigaeth y theatr, a sefydlwyd gan yr actor Michael Sheen ar ddechrau 2025, yw datblygu llwyfan ar gyfer doniau Cymru wrth greu dramâu graddfa fawr fydd yn taro tant yng Nghymru ac ar draws y byd.
Bydd y buddsoddiad gan gwmni BBC Studios Drama Productions yn ariannu’r gwaith o recriwtio prif sgowt doniau ar gyfer Welsh Net, cynllun a ddychmygwyd gan Sheen ar gyfer nodi a datblygu doniau a chreu llwybrau i swyddi ar y llwyfan ac oddi arno ac o flaen neu y tu ôl i’r camera ar gyfer actorion, awduron, cyfarwyddwyr, criw technegol a’r rhai nad ydynt yn gweithio yn y sector eto.
Gan edrych ar draws Cymru, bydd y prif sgowt diwylliant yn mynd ati i wylio cynyrchiadau theatr, perfformiadau a sioeau ieuenctid, amatur a phroffesiynol, gyda’r bwriad o nodi a datblygu doniau sydd â’r potensial i weithio i Welsh National Theatre a BBC Studios.
Mae BBC Studios yn gwmni cyfryngau byd-eang a aned o’r BBC, sy’n creu ac yn dosbarthu cynnwys mwyaf poblogaidd y byd, yn ogystal â chreu a meithrin brandiau eiconig. Mae cynyrchiadau BBC Studios Drama Productions yn cynnwys EastEnders, Silent Witness, Father Brown a Sister Boniface. Nod y bartneriaeth yw denu doniau cynhyrchu a chreadigol newydd o Gymru i gynyddu presenoldeb Cymru ar raglenni fel Casualty, Pobol y Cwm, ac Anfamol, sioeau sy’n cael eu creu yn stiwdios Porth y Rhath.
Meddai Michael Sheen: “Lle roedd y Welsh Not yn mygu mynegiant Cymreig yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau’r ugeinfed ganrif, uchelgais Welsh Net yw ei hyrwyddo, gan greu llwybrau sydd wedi diflannu, neu nad oedd yn bodoli, i helpu gwneuthurwyr theatr dawnus ledled Cymru i oresgyn y rhwystrau maen nhw’n eu hwynebu yn y diwydiant.
“Wrth dyfu i fyny ym Mhort Talbot, a chwarae pêl-droed ar gae drws nesaf i’r A48, ro’n i bob amser yn gwybod bod cyfle y byddai ’na ‘sgowt’ yn gwylio. Rhywun o’r ardal leol oedd yn cael y dasg gan glybiau proffesiynol i gadw llygad am ddoniau newydd. Roedd hynny’n golygu, waeth pa mor anodd oedd y daith yn y pen draw, roedd yna bosibilrwydd o lwybr i’r brig. Dw i eisiau i bob person ifanc, amatur a phroffesiynol sy’n perfformio neu’n gweithio tu ôl i’r llen yng Nghymru, gael yr un llwybr posib yna at frig y daith greadigol.”
Ychwanegodd Sharon Gilburd, prif swyddog gweithredol sefydlol y Welsh National Theatre: “Mae ein partneriaeth â BBC Studios ar y Welsh Net yn foment bwysig i’r don nesaf o ddoniau creadigol o Gymru. Nid yn unig y bydd y prif sgowt diwylliant yn chwilio am ddoniau sy’n haeddu cyfleoedd ehangach ar y llwyfan, ond nawr ar y sgrin hefyd, diolch i BBC Studios, gan adeiladu llwybr amlwg ar gyfer cynyrchiadau’r ddau sefydliad yn y dyfodol. Mae ’na gyfnod cyffrous o’n blaenau.”
Meddai Kate Oates, Pennaeth cwmni BBC Studios Drama Productions: “Mae dod o hyd i ddoniau newydd a’u meithrin yn flaenoriaeth wirioneddol i ni, ac rydyn ni wrth ein bodd yn gweithio mewn partneriaeth â Welsh National Theatre i ddod o hyd i bobl greadigol newydd gwych o Gymru. Rydyn ni wrth ein bodd gyda beth welson ni o’r gwaith sydd eisoes ar y gweill, ac rydyn ni’n edrych ymlaen i weld beth ddaw nesaf.”
Meddai Roxanne Harvey, Uwch Gynhyrchydd ar Casualty: “Mae Casualty wedi chwarae rhan allweddol yn natblygiad y gymuned gynhyrchu greadigol yng Nghymru ers dros ddegawd. Ochr yn ochr â’n rhaglen allgymorth arobryn dan arweiniad Hannah Williams, rydyn ni wrth ein bodd y bydd y cydweithrediad newydd yma â Welsh National Theatre yn sefydlu llwybr ar gyfer y genhedlaeth nesaf o ddoniau Cymru.”
Bydd y prif sgowt diwylliant yn chwarae rhan allweddol wrth sefydlu gweledigaeth Michael Sheen ar gyfer y Welsh Net, gan ddylunio ac adeiladu’r fframwaith i helpu i greu rhwydwaith o sgowtiaid ledled Cymru dros y misoedd a’r blynyddoedd nesaf. Bydd y sgowtiaid diwylliant yn nodi doniau ac yn cefnogi eu datblygiad drwy nifer o lwybrau, gan gynnwys mynediad at hyfforddiant a chyfleoedd yn y sector ffilm, teledu a theatr yng Nghymru, a thu hwnt. Bydd y sgowtiaid yn nodi pobl dalentog ar gyfer swyddi fel cyfarwyddwyr, cynhyrchwyr, awduron a rolau arbenigol eraill – nid yn unig ar gyfer pobl ar lwyfan ac o flaen y camera. Mae’r broses recriwtio ar gyfer y swydd ar agor o heddiw ymlaen a gellir ei gweld yma.
DIWEDD
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Daniel Tyte (daniel.tyte@workingword.co.uk) yn Working Word drwy +44 29 2045 5182 / +44 7742 251232.
BBC Studios
Mae BBC Studios yn is-gwmni masnachol i Grŵp y BBC gyda gwerthiant o £2.1 biliwn (2021/22: £1,630 miliwn). Mae’r busnes, sy’n gallu mynd â syniad yn ddi-dor o’r meddwl i’r sgrin a thu hwnt, wedi’i adeiladu ar ddau faes gweithredu: y Stiwdio Gynnwys fyd-eang, sy’n cynhyrchu, yn buddsoddi ac yn dosbarthu cynnwys yn fyd-eang, a Sianeli a Ffrydio, gyda sianeli, gwasanaethau a mentrau ar y cyd â brand y BBC yng ngwledydd Prydain ac yn rhyngwladol. Mae’r busnes yn creu tua 2,500 awr o raglenni arobryn ym Mhrydain bob blwyddyn, gyda dros 80% o gyfanswm refeniw BBC Studios yn dod gan gwsmeriaid nad ydynt yn gwsmeriaid BBC gan gynnwys Discovery, Apple a Netflix. Mae ei gynnwys yn cael ei gydnabod yn rhyngwladol ar draws ystod eang o genres ac arbenigeddau, gyda brandiau fel Strictly Come Dancing/Dancing with the Stars, Top Gear, y gyfres Planet, Bluey a Doctor Who. BBC.com yw llwyfan newyddion digidol byd-eang BBC Studios, sy’n cynnig newyddion rhyngwladol cyfoes, dadansoddiad manwl a straeon nodwedd.