ENG / CYM
Cyhoeddi'r cast llawn a'r tîm creadigol ar gyfer Owain & Henry gyda Linus Roache fel Henry, Rakie Ayola a Sophie Melville yn ymuno â Michael Sheen yn nrama epig newydd Gary Owen.
Mae Welsh National Theatre a Chanolfan Mileniwm Cymru heddiw wedi datgelu’r cwmni llawn sy’n ymuno â Michael Sheen yn eu cyd-gynhyrchiad sydd ar y gweill o Owain & Henry (5-28 Tachwedd 2026).
Mae Owain & Henry yn ail-ddychmygiad epig o un o'r straeon sy'n diffinio Cymru – stori am arweinyddiaeth, grym a hunaniaeth sydd â neges mor daer i Gymru heddiw ag oedd ganddi chwe chanrif yn ôl. Mae'r ddrama, a gafodd ei hysgrifennu gan y dramodydd Gary Owen, sydd wedi ennill Gwobr Olivier, yn archwilio un o'r achosion o wrthdaro sy'n diffinio hanes Prydain o safbwynt nad yw'n cael ei roi ar ganol y llwyfan yn aml, ac mae'n foment nodedig i fyd theatr Cymru, gan ddod â stori Owain Glyndŵr i'r llwyfan ar raddfa na welwyd ei thebyg o'r blaen.
Yn ymuno â Michael Sheen, y mae ei enw wedi'i gyhoeddi eisoes ar gyfer rhan tywysog Cymru, bydd yr actor llwyfan a sgrin clodwiw Linus Roache (Law & Order, Vikings, Richard II) yn chwarae'r rhan deitl arall, sef brenin Lloegr, Harri IV. Mae'r cynhyrchiad yn archwilio'r gwrthdaro ffrwydrol rhwng dau ddyn sydd â dwy weledigaeth wahanol o arweinyddiaeth, cenedligrwydd a grym, wrth i wrthryfel Owain Glyndŵr fygwth gweddnewid dyfodol gwledydd Prydain.
Bydd yr actores sydd wedi enill gwobr BAFTA Cymru, Rakie Ayola (Kaos, The Pact, The Authenticator), yn chwarae rhan Mared ferch Dafydd, uchelwraig a gwraig Owain, gydag Emily Burnett (Hollyoaks, The Dumping Ground, Rope) yn ymuno fel eu merch Catrin ferch Owain. Bydd yr actores sydd wedi ennill Gwobr y Stage am Ragoriaeth Actio, Sophie Melville (Iphigenia in Splott, The Way, The Missing), yn chwarae rhan y fam a drodd yn rhyfelwraig, Lois.
Bydd Ned Costello yn chwarae rhan Hal, etifedd gorsedd Lloegr. Hefyd yn serennu bydd Brendan Charleson fel Percy, Martyn Ellis fel Syr John Falstaff, Gruffudd Glyn fel Bryn, Ian Hughes fel y Barwn Reginald Grey, David Judge fel Hotspur, Richard Lynch fel Rhys, a James Wilbraham fel Mortimer.
Yn cwblhau'r cast bydd ensemble dawnus o berfformwyr: Lizzie Caitlin Bennett, Beau Bradfield, Harrison Claxton, Caitlin Drake, Mirain Fflur, Orla Hardie, Aisha-May Hunte, Corey Mitchell, Jamie Morgan, Luke Rhodri a Joseph Tweedale.
Mae'r cynhyrchiad yn ddatganiad o uchelgais greadigol: dod â Welsh National Theatre a Chanolfan Mileniwm Cymru ynghyd i adrodd un o'r straeon sy'n diffinio Cymru gyda'r hyder ac ar y raddfa mae'n ei haeddu.
Mae cyfarwyddwr artistig Welsh National Theatre, Michael Sheen, yn ymuno â Steffan Donnelly, cyfarwyddwr artistig a chyd-brif weithredwr Theatr Cymru (Romeo a Juliet, Rhinoseros), i gyd-gyfarwyddo'r ddrama. Mae'r Cyfarwyddwr Cyswllt Hannah Noone (The Wife of Cyncoed, BoHo, Hot Chicks) yn cwblhau'r tîm cyfarwyddo.
Mae Mab Gwalia, sef mudiad Michael Sheen dros newid, yn creu cyfleoedd i artistiaid Cymru drwy rolau cysylltiol a chynorthwyol yn y cwmni, gan fuddsoddi yn nyfodol theatr Cymru drwy feithrin doniau creadigol sy'n dod i'r amlwg.
Mae Matt Hellyer yn ddylunydd set cysylltiol ochr yn ochr â'r dylunydd set Jon Bausor, Cara Hood yw'r dylunydd goleuo cysylltiol ochr yn ochr â'r dylunydd goleuo Aideen Malone, Elin Steele yw'r dylunydd gwisgoedd, Dyfan Jones yw'r cyfansoddwr a'r dylunydd sain, Livi Wilmore yw'r cynorthwyydd dylunio fideo ochr yn ochr â'r dylunydd fideo Jack Phelan, Anthony Matesena yw'r cyfarwyddwr symudiadau, Rebecca Wilson yw'r cyfarwyddwr ymladd cynorthwyol ochr yn ochr â'r cyfarwyddwr ymladd ac agosatrwydd Bethan Clarke, y cyfarwyddwr castio yw Hannah Marie Williams, y cyfarwyddwr llais yw Nia Lynn, ac mae'r uwch gynhyrchydd Kate Ferris yn cwblhau'r tîm creadigol.
Meddai Michael Sheen, cyfarwyddwr artistig Welsh National Theatre a chyd-gyfarwyddwr Owain & Henry: Mae cael sefyll gyda’r cast rhyfeddol yma a dychmygu’r bywiogrwydd, y tân a’r ddynoliaeth y byddwn ni'n ei chreu ar y llwyfan gyda’n gilydd yn fwy na chyffrous. Mae Owain & Henry yn dod â dau gawr, dwy genedl a dwy fersiwn o hanes i'r un ystafell. Mae'n gofyn inni ddal yr holl gymhlethdod yna: y wleidyddiaeth a'r farddoniaeth, yr agosatrwydd a'r rhwysg, y gorffennol a'r cwestiynau mae'n eu gofyn i ni nawr. Ers blynyddoedd mae pobl yn holi pam nad yw Cymru wedi adrodd y stori yma ar y raddfa yma o'r blaen. Dyna’n union rydyn ni'n bwriadu ei wneud, gan greu cyfleoedd i artistiaid Cymru wrth ei hadrodd.”
Meddai Graeme Farrow, Prif Swyddog Creadigol Canolfan Mileniwm Cymru: “Stori am godi cenedl yw Owain & Henry, a stori am rym a’i effeithiau llygredig. Mae'n seiliedig ar hen stori ond mae'n teimlo'n daer ac yn berthnasol. Mae'n digwydd gan fod sefydliadau ac artistiaid o Gymru wedi dod at ei gilydd i greu rhywbeth beiddgar ac uchelgeisiol. Mae ein llwyfan ni yn lle i Gymru adrodd ei straeon a'u dathlu gyda hyder, wrth ein cynulleidfaoedd ni yma ac ar draws y byd. Rydyn ni'n methu aros i gael gweld y cast a'r tîm creadigol rhyfeddol yma'n dod â'r stori'n fyw mewn digwyddiad theatrig fydd yn garreg filltir.”
Meddai Steffan Donnelly, cyd-gyfarwyddwr Owain & Henry: “Yn ei hanfod, cywaith ydy theatr: gwahanol artistiaid yn dod at ei gilydd i greu rhywbeth na allai'r un ohonon ni ei greu ar ein pen ein hunain. Efo'r cast a'r tîm creadigol ar gyfer Owain & Henry, mae'r posibiliadau'n teimlo'n enfawr, ac alla i ddim aros i'r cynulleidfaoedd gael cwrdd â nhw. Nid un cynhyrchiad arall ydy hwn. Mae'n gyfle i ddangos beth all theatr Cymru ei gyflawni pan fydd artistiaid a sefydliadau'n dod at ei gilydd efo uchelgais go iawn.”
Bydd cyd-gynhyrchiad Welsh National Theatre a Chanolfan Mileniwm Cymru, Owain & Henry, yn cael ei berfformio yn Theatr Donald Gordon yng Nghanolfan Mileniwm Cymru o 5-28 Tachwedd 2026, gyda’r noson i’r wasg i'w chynnal nos Fercher 11 Tachwedd.
Mae ticedi ar werth rwan. Allwch chi archebu ar y linc yma:
Canolfan Mileniwm Cymru | www.wmc.org.uk
PRESS CONTACTS
I gael rhagor o fanylion neu gyfweliadau, cysylltwch â Sam Cook (sam.cook@workingword.co.uk) neu Daniel Tyte (Daniel.tyte@workingword.co.uk) yn Working Word 029 20455 182 a Burte Tsogbadrakh (burte@joallanpr.com) a Jo Allan (jo@joallanpr.com) yn JAPR ar 020 3997 7477.

