ENG / CYM

Dyddiad yn Llundain wedi’i ychwanegu wrth i Matthew Rhys chwarae rhan Burton i godi arian ar gyfer Welsh National Theatre

Mae enillydd Gwobr Emmy, Matthew Rhys, ar fin dychwelyd i lwyfan Llundain am y tro cyntaf ers 21 mlynedd i chwarae rhan Richard Burton yn yr Old Vic.

Mae gan y lleoliad hanesyddol yma gysylltiadau â llwyddiant cynnar Burton ac mae wedi'i ychwanegu (dydd Sul 16 Tachwedd) at daith Cymru o Playing Burton i fodloni'r galw poblogaidd.

Mae'r ddrama un-dyn clodwiw yn cael ei hadfywio i nodi canmlwyddiant geni Richard Burton, gan godi arian ar gyfer Welsh National Theatre newydd Michael Sheen.

Wedi'i ysgrifennu gan Mark Jenkins, wedi'i gyfarwyddo gan Bartlett Sher, sydd wedi ennill Gwobr Tony, a'i gynhyrchu gan dîm WNT sef Maris Lyons, Anna Cook, Llinos Neall a Sharon Gilburd, mae Playing Burton yn cynnig cipolwg treiddgar ar fywyd yr actor, o'i ddechreuadau tlawd yn Ne Cymru i'w godiad fel un o berfformwyr gorau ei genhedlaeth. Gan olrhain ei berthynas gariadus angerddol ag Elizabeth Taylor a'i frwydr gyhoeddus iawn gydag alcoholiaeth, mae'r ddrama yn archwiliad llawn enaid o enwogrwydd, uchelgais a hunaniaeth.

Ymunodd Burton â Chwmni Theatr Old Vic ym 1949, maes hyfforddi i actorion llwyfan cyn sefydlu'r Theatr Genedlaethol. Drwy gydol y 1950au chwaraeodd sawl rôl nodedig gyda Chwmni Theatr Old Vic, gan gynnwys rôl serennu yn Hamlet, gan fynd â'r seren a aned ym Mhort Talbot i lwyfannau yn Efrog Newydd, Canada a thu hwnt, gan helpu i atgyfnerthu ei enw da fel un o brif dalentau ei genhedlaeth.

Chwaraeodd yr Old Vic ran yr un mor bwysig trwy wneud theatr yn hygyrch yn ôl yn Ne Cymru. Pan orfododd y Blitz i theatr Llundain i gau ei drysau ym 1940, yn hytrach na dod â phethau i stop penderfynodd y cwmni fynd ar daith, gan fynd â theatr glasurol i gymunedau glofaol yn Ne Cymru.

Dywedodd Sharon Gilburd, prif weithredwr Welsh National Theatre: “Roedden ni wastad yn gwybod bod gennym ni rywbeth arbennig iawn ar ein dwylo gyda’r cynhyrchiad hwn ac mae ymateb y cynulleidfaoedd wedi cadarnhau hynny. Mae’r Old Vic yn arbennig iawn i Gymru, Matthew a Michael, felly mae dod â’r sioe hon i Lundain i godi arian ar gyfer WNT yn noson na ddylid ei cholli. Mae Matthew wedi bod mor hael drwyddi ac allwn ni ddim diolch digon iddo – mae’n fraint gweithio gydag ef.”

Daw chwarae rhan Burton wrth i RB100 - dathliadau Richard Burton sy'n nodi canmlwyddiant geni'r actor eiconig - ddod i ben gyda pherfformiad yng Nghaffi Capel Bethel ym man geni Burton ym Mhontrhydyfen ar 26 Tachwedd.

Mae Rhys, sy'n dod o Gaerdydd ac a enillodd Emmy am Brif Actor Rhagorol mewn Cyfres Ddrama am ei rôl yn The Americans yn 2018, wedi bod yn ymarfer y rôl yn ei gartref yn Efrog Newydd.

Dywedodd Matthew Rhys: “Mae Michael Sheen wedi bod yn rhoi cywilydd ar bob un ohonom ni, actorion Cymru, drwy sefydlu WNT, felly, pan ymddangosodd lle yn fy amserlen, teimlais mai fy amser i oedd sefyll i fyny

Dywedodd Matthew Rhys: “Mae Michael Sheen wedi bod yn rhoi cywilydd ar bob un ohonom ni, actorion Cymru, drwy sefydlu WNT, felly, pan ymddangosodd lle yn fy amserlen, teimlais mai amser fi oedd sefyll i fyny!

“Roedd yr Old Vic yn golygu llawer i ddyddiau cynnar Burton, fel yr oedd i mi, gan chwarae rhan Nick yn Grace Notes gan Samuel Adamson yno ym 1997. Bydd yn rhywbeth arbennig bod yn ôl ar y llwyfan hwnnw, gan chwarae rhan actor a daniodd fy nghariad at y grefft.

“Pan darodd Covid, paratois gynhyrchiad o Playing Burton ond dydw i erioed wedi cael y cyfle i’w berfformio ar y llwyfan. Gyda 2025 yn flwyddyn canmlwyddiant Burton a blwyddyn gyntaf WNT, roedd yn teimlo’n iawn i ddychwelyd i lwyfan Llundain a Chymru am y tro cyntaf mewn dros 20 mlynedd.

“Y rheswm pam roeddwn i eisiau actio oedd oherwydd Richard Burton. Ers gweld ei berfformiad anhygoel yn Look Back in Anger am y tro cyntaf i wrando o hyd ar ei sain o Hamlet ac Under Milk Wood. Fe wnaeth o arloesi’r llwybr i ni i gyd a dangos i ni ei bod hi’n bosibl.”

Dywedodd Michael Sheen: “Cysylltodd Matthew â mi i ddweud bod ganddo ffenestr yn ei ddyddiadur felly sut y gallai helpu Welsh National Theatre. Mae'r hyn a ddechreuodd gyda neges syml wedi troi'n daith lle gall pobl ledled ein gwlad weld un o'n hactorion gorau yn chwarae rhan un o'n hactorion gorau, a hynny i gyd ym mlwyddyn canmlwyddiant Richard Burton.

“Un o'r pethau cyntaf a wnes i pan ddechreuon ni Welsh National Theatre oedd ymweld â theatrau ledled Cymru, felly mae'n teimlo'n arbennig gallu mynd â'r sioe hon i lwyfannau mewn llawer o gymunedau ac ychwanegu dyddiad yn Llundain yn awr yn yr Old Vic theatr rydw i wedi cael yr anrhydedd o weithio ynddi sawl gwaith dros y blynyddoedd ers i mi berfformio yno am y tro cyntaf yn Amadeus ym 1999 a chwaraeodd gymaint o ran yng ngyrfa llwyfan Richard Burton. Mae gan y peth cyfan fath arbennig o serendipedd ac mae'n union yr hyn yr oeddem am ei ddatgloi gyda Welsh National Theatre.”

Mae tocynnau i weld Matthew Rhys yn Playing Burton yn Llundain ar werth nawr a fydd ar gael o Welsh National Theatre gyda'r holl arian yn mynd i gefnogi cwmni newydd: https://www.welshnationaltheatre.com/playing-burton-cym